Johann Zoffany | |
---|---|
Ganwyd | 13 Mawrth 1733 Frankfurt am Main |
Bu farw | 11 Tachwedd 1810 Llundain, Strand-on-the-Green |
Dinasyddiaeth | yr Almaen |
Galwedigaeth | arlunydd, gwneuthurwr printiau, engrafwr, drafftsmon |
Adnabyddus am | Colonel Mordaunt's Cock Match, The Death of Captain James Cook, The Tribuna of the Uffizi, Last Supper |
Arddull | portread, peintio hanesyddol, hunanbortread |
Mudiad | Neo-glasuriaeth |
Priod | Mary Thomas |
Plant | Cecilia Clementine Elizabeth Zoffany |
Paentiwr ac ysgythrwr o'r Almaen yn yr arddull newydd-glasurol oedd Johann Zoffany (13 Mawrth 1733 – 11 Tachwedd 1810) a oedd yn arbenigo mewn darluniau ymddiddan a phortreadau.
Ganwyd Johannes Josephus Zauffaly yn ninas ymerodrol rydd Frankfurt am Main yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, yn fab i bensaer a saer dodrefn yn llys Alexander Ferdinand, 3ydd Tywysog Thurn a Taxis.[1] Astudiodd arluniaeth yn Ratisbon, yn brentis i'r arlunydd Martin Speer, cyn iddo dreulio'i ieuenctid yn crwydro Awstria a'r Eidal, gan astudio dan Anton Raphael Mengs yn Rhufain. Symudodd i Loegr tua 1758 a chafodd waith yn addurno wynebau clociau.[2] Megis William Hogarth, paentiodd Zoffany luniau o gynhyrchiadau theatr Llundain, a'r enwocaf ohonynt ydy'r portreadau o'r actor David Garrick ar y llwyfan. Gwerthwyd printiau o'i ysgythriadau theatraidd a daeth ei waith yn boblogaidd gan y cyhoedd.[3] Fe'i noddwyd gan y Brenin Siôr III a'r Frenhines Charlotte, ac ymhlith ei bortreadau brenhinol mae Queen Charlotte with Her Sons, the Prince of Wales and the Duke of York (1765).[4] Fe'i derbyniwyd yn aelod o'r Academi Frenhinol ar enwebiad y brenin yn 1769.[1]
Teithiodd Zoffany yn ôl i'r Eidal yn 1772 gyda chymorth ariannol y Frenhines Charlotte i dreulio saith mlynedd, yn Fflorens yn bennaf, ac yno fe baentiodd The Tribuna of the Uffizi (1779). Ystyriodd y Frenhines bod y paentiad yn darlunio dynion cyfunrywiol, gan beri sgandal a thramgwyddo'r teulu brenhinol.[3] Ymwelodd â Fienna hefyd, ym mha le fe baentiodd bortreadau llawn hyd o'r Habsbwrgiaid.[2] Aeth i India yn 1783 ac enillodd ffortiwn yn paentio portreadau o goloneiddwyr Seisnig a thywysogion Indiaidd. Ar ei fordaith yn ôl i Loegr yn 1789 cafodd ei longddryllio ger Ynysoedd Andaman. Heb fwyd, cytunodd y goroeswyr i gynnal lotri i ddewis un ohonynt i gael ei ladd a'i fwyta. Felly, Zoffany yw'r "unig aelod o'r Academi Frenhinol i fod yn ganibal".[5] Pan ddychwelodd i Loegr, paentiodd rhagor o bortreadau amlwg, er enghraifft Charles Towneley Among His Marbles (1790).[4] Ymhlith ei weithiau diweddaraf mae'r ddau lun Massacre at Paris (1794), ei ymateb i'r Chwyldro Ffrengig.[3] Ni phaentiodd lawer yn ystod deng mlynedd olaf ei oes. Bu farw yn 77 oed yn Strand-on-the-Green, Middlesex, a fe'i cleddir ym Mynwent Eglwys y Santes Ann, Kew.